has gloss | cym: Bryngaer ger Rhosesmor, Sir y Fflint syn dyddion ôl i Oes yr Haearn yw Moel y Gaer (Cyfeirnod OS: SJ211690). Fe saif 303 metr uwchlawr môr ac maen cynnwys tai crynion Celtaidd (a rhai petrual o gyfnod ychydig yn ddiweddarach) bron ar gopar bryn ac yn dyddion ôl i 2994 BC (+-40) yn ôl dyddio carbon diweddar. Er nad ywn rhan or gadwyn honno o fryniau a elwir Moelydd Clwyd, maen eitha agos iddynt, ac yn sicr yn rhan o gadwyn o fryngaerau megis Moel Hiraddug, Moel Arthur, Moel Fenlli, a Phenycloddiau. Archwiliwyd y bryngaer hon yn drylwyr gan archaeolegwyr yn yr 1970au (gan Graeme Gillbert) oherwydd y bygythiad ir lle gan ddiwydiant: cronfa ddŵr 500,000 galwyn. |