has gloss | cym: Plasdy bychan yn Llŷn oedd Penyberth gyda lle amlwg yn hanes Cymru a hanes llenyddiaeth Gymraeg. Safai ger eglwys Penrhos ar y ffordd rhwng Pwllheli a Llanbedrog ar benrhyn Llŷn, Gwynedd. Maen enwog heddiw yn bennaf oherywdd y "Tân yn Llŷn, yr enw poblogaidd am y weithred o losgir Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ar 8 Medi 1936 gan D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis a ystyrir yn garreg filltir yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig. Dymchwelwyd yr hen dŷ er mwyn adeiladur ysgol fomio. |